COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

21-30 o 62

  1. Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Ben Bril a'r Ddinas Ddirgel

    Rhan o gyfres o lyfrau darllen ar ffurf comig.

    Bachgen 14 oed yw Ben Bril ac mae ei fryd ar achub y byd! Llyfr stori llawn antur.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  2. Pump Prysur: Nadolig Llawen

    Pump Prysur: Nadolig Llawen

    Mwy o anturiaethau'r Pump Prysur, addasiad Cymraeg Manon Steffan Ross o Famous Five gan Enid Blyton.

    Mae'n noswyl Nadolig ac mae'r Pump Prysur yn eiddgar i agor eu hanrhegion - yn arbennig Twm! Ond pan mae Twm yn dechrau cyfarth yn uchel, caiff ei anfon allan o'r ty. Ond mae 'na leidr yn y ty sydd am ddwyn yr anrhegion i gyd! Fydd Twm yn llwyddo i achub y sefyllfa?

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Meistres y Bwa Hir

    Meistres y Bwa Hir

    Addasiad Efa Mared Edwards o'r nofel Longbow Girl gan Linda Davies.

    Wedi ei lleoli yn harddwch Bannau Brycheiniog, lle magwyd Linda Davies, mae'r stori yn adrodd hanes Mari Owen, merch ddewr a phenderfynol ac un sy'n giamstar ar ddefnyddio'r bwa hir.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Dyma fi! Dyma fi!

    Dyma fi! Dyma fi!

    Dewch i gwrdd â Cadi, camelion sydd wedi diflasu ar fod yn frown ac yn wyrdd trwy'r amser. Ond wrth iddi dynnu sylw ei ffrindiau, mae'n dysgu nad yw dangos ei hun yn beth da bob tro.

    Llyfr stori dwyieithog i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Y Cerrig Hud

    Y Cerrig Hud

    Wrth i fachgen bach ollwng carreg y mae newydd ei lliwio i'r dŵr, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd... 'Yn sydyn, roedd yna fflach o olau llachar a synau rhyfeddol. Neidiodd Peter yn ôl mewn rhyfeddod wrth weld pysgodyn lliwgar yn nofio yn y dŵr. Roedd carreg Peter wedi dod yn fyw!'

    Llyfr stori dwyieithog i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  6. Douglas a'r Gacen Fêl

    Douglas a'r Gacen Fêl

    Mêl yw hoff fwyd Douglas, ac wrth baratoi cacen fêl mae Douglas wedi cyffroi'n lan! Tybed a yw'n ddigon dewr i flasu rhywbeth gwahanol?

    Llyfr dwyieithog sydd yn annog plant i flasu bwydydd gwahanol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Cwning-Od: i Fyny ac i Lawr

    Cwning-Od: i Fyny ac i Lawr

    Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies: Up and Down' gan David Melling.

    Llyfr am gwningod annarferol, doniol sy'n caru neidio i fyny ac i lawr ar bolion pogo! Yn y llyfr lliwgar hwn, bydd plant ifanc yn dysgu am eiriau croes yng nghwmni'r Cwning-Od hoffus!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  8. Mili'r Mircat

    Mili'r Mircat

    Addasiad dwyieithog o 'Milly the Meerkat' gan Oakley Graham.

    Llyfr stori dwyieithog am Mili'r Mircat - anifail bach drygionus sy'n dod i ddysgu nad yw'n syniad da i ddweud celwydd.

    Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  9. Fy Antur i'r Lleuad!

    Fy Antur i'r Lleuad!

    Llyfr stori sy'n sôn am antur i'r lleuad gyda'r darllenydd yn rhan o'r stori!

    Addas i blant y Blynyddoedd Cynnar a'r Cyfnod Sylfaen.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Cwning-Od: Glaw a Hindda

    Cwning-Od: Glaw a Hindda

    Addasiad Cymraeg o 'Funny Bunnies - Rain or Shine' gan David Melling.

    Dewch i ddysgu am y tywydd yng nghwmni'r Cwning-od, creaduriaid doniol ac egniol.

    Llyfrau darllen gyda darluniau trawiadol a thestun sy'n odli

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Ascending Direction

Grid List

21-30 o 62