COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 133

  1. Bom Drewllyd Henri Helynt

    Bom Drewllyd Henri Helynt

    Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry's Stinkbomb); llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  2. Henri Helynt a'r Wrach Warchod

    Henri Helynt a'r Wrach Warchod

    Addasiad Cymraeg o un o lyfrau'r gyfres 'Horrid Henry' (Horrid Henry and the Bogey Babysitter); llyfrau darllen hwyliog ar gyfer CA2. Mwy o wybodaeth
    £4.99

  3. Siwrne yn y Gorffennol

    Siwrne yn y Gorffennol

    Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...

    Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.






     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Trio ac Antur y Castell

    Trio ac Antur y Castell

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!

    Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Trio ac Antur y Mileniwm

    Trio ac Antur y Mileniwm

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!

    Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! 

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Dad Drwg

    Dad Drwg

    Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.

    Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  8. Sgubo

    Sgubo

    Addasiad Eurig Salisbury o Sweep gan Louise Greig.

    Mae hwyliau drwg Daf bob tro'n dechrau'n fach, fach. Ond ymhen dim, maen nhw'n cyflymu nes eu bod nhw'n sgubo drwy'r dre i gyd. Stori yw hon am blentyn sy'n delio ag emosiynau mawr, a stori i godi'r galon.

     

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Llestri'r Dylluan

    Llestri'r Dylluan

    Addasaid Cymraeg gan Bethan Gwanas o nofel ffantasi arloesol i bobl ifanc gan Alan Garner. Stori arswyd grefftus, sy'n dilyn trywydd tri o bobl ifanc sy'n cael eu gorfodi i ail-greu chwedl Blodeuwedd.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  10. Plant Gwaetha'r Byd

    Plant Gwaetha'r Byd

    Addasiad Cymraeg gan Manon Steffan Ros o The World's Worst Children gan David Walliams. Agorwch y llyfr afiach hwn i glywed hanesion pump o ferched ofnadwy a phump o fechgyn boncyrs! Daw'r gyfrol yma o straeon byrion digri gan David Walliams, un o nofelwyr plant mwyaf poblogaidd y byd, a Tony Ross, arlunydd byd-enwog. Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 133