COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 61

  1. Cyfundrefn Gyfreithiol Cymru a Lloegr

    Cyfundrefn Gyfreithiol Cymru a Lloegr

    Ffynhonnell ddibynadwy i'ch helpu chi i adolygu a dysgu am y maes. Yn ymdrin â'r holl feysydd angenrheidiol, mae'r llyfr yn arbennig o ddefnyddiol i'r rhai sy'n dilyn cyrsiau Uwch Atodol CBAC neu'r OCR yn y Gyfraith. Mae ehangder ei gynnwys yn golygu ei fod yn adnodd gwerthfawr er mwyn sicrhau'r graddau gorau yn y pwnc. Mwy o wybodaeth
    £19.99

  2. Math@ebol: Mat a Sgrin 6 - Pecyn Dosbarth

    Math@ebol: Mat a Sgrin 6 - Pecyn Dosbarth

    Mae pob pecyn o fatiau mathemateg ar gyfer y dosbarth yn cynnwys tri mat ar gyfer pob thema; Lleoli Rhif, Lluosi a Rhannu, Ffracsiynau Cywerth 1 a Ffracsiynau Cywerth 2. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu'r plant i fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir a'i pheidio. Mwy o wybodaeth
    £12.99

  3. Math@ebol: Mat a Sgrin 4

    Math@ebol: Mat a Sgrin 4

    Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 3. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddior CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir a'i pheidio. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  4. Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Math@ebol: Mat a Sgrin 3

    Matiau mathemateg a CD rhyngweithiol ar gyfer y bwrdd gwyn. Addas ar gyfer Cyfnod Allweddol 2 ar gyfer astudio Lleoli Rhif, Lluosi a Rhannu a Ffracsiynau Cywerth. Matiau A3 wedi'u lamineiddio sy'n hybu'r gwaith o wella sgiliau mathemategol. Matiau dwy ochrog gyda gwybodaeth fathemategol ar un ochr ac ymarferion ar yr ochr arall. Addas ar gyfer datblygu Sgiliau Sylfaenol mewn mathemateg. Mae modd ysgrifennu ar y matiau cyn eu glanhau gyda chlwtyn sych. Mae modd defnyddio'r CD ar fwrdd gwyn neu ar gyfrifiadur personol. Mae'r rhaglen yn caniatu i'r plant fwydo'r atebion a chael ymateb i weld a ydyn nhw'n gywir ai pheidio. Mwy o wybodaeth
    £14.99

  5. Cyfraith ar gyfer A2

    Cyfraith ar gyfer A2

    Mae Cyfraith ar gyfer A2 yn addas ar gyfer astudio'r Gyfraith ar gyfer arholiadau'r Gyfraith A2 Safon Uwch. Mae'r gyfrol yn egluro popeth sydd angen i chi ei wybod ac mae'n llawn awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer yr arholiad! Mae'r gyfrol yn delio'n gynhwysfawr gyda'r pynciau angenrheidiol yn glir a dealladwy. Mae'n cynnwys y newidiadau diweddaraf yn y gyfraith, gan gynnwys manylion llawn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Chrwneriaid 2009. Mae elfen newydd sef Awgrymiadau ar gyfer yr arholiad yn sicrhau eich bod wedi paratoi'n well nag erioed at yr arholiad. Mae darluniau, cartwnau a gweithgareddau o help i egluro'r cysyniadau gan Jacqueline Martin a Chris Turner. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  6. Cardiau Adolygu'r Gyfraith: Cyfraith Troseddol

    Cardiau Adolygu'r Gyfraith: Cyfraith Troseddol

    Mae'r pecyn adolygu hwn wedi'i greu ar gyfery rhai sy'n astudio Cyfraith Troseddol ar gyfer arholiadau Safon Uwch A2 yn y Gyfraith. Mae'r cardiau'n cynnwys 50 o feysydd adolygu gyda 200 o gwestiynau ac atebion. Mae'r cardiau hefyd yn cynnwys nodiadau ganyr Arholwr, 50 o gardiau lliw, nodiadau adolygu allweddol ar bob pwnc, mynegai llawn. Dyma becyn maint poced sy'n hwylus i'w ddefnyddio unrhywle, unrhywbryd. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  7. Cardiau Adolygu'r Gyfraith

    Cardiau Adolygu'r Gyfraith

    Mae'r bocs cardiau hwn yn cynnwys 100 o gardiau a 400 o gwestiynau ac atebion, ynghyd a nodyn gan yr arholwr. Mae'r cardiau'n ddelfrydol ar gyfer adolygu'n gyflym unrhyw le, unrhyw bryd, naill ai trwy brofi eich hun neu drwy brofi ffrind. Defnyddiwch nhw dro ar l tro nes i chi wybod a deall yr holl gynnwys. Mwy o wybodaeth
    £9.99

  8. Atlas Mawr y Byd

    Atlas Mawr y Byd

    Yn llawn lluniau anhygoel o bobl, lleoedd a bywyd gwyllt, dyma atlas Cymraeg sy’n cynnig golwg gyffrous ar y byd heddiw. Rhwng y baneri lliwgar, y ffeithiau difyr a’r testun darllenadwy, mae Atlas Mawr y Byd yn llyfr gwych ar gyfer y cartref a’r ysgol.

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  9. Lleoliadau Cyferbyniol: Llawlyfr Athrawon a DVD

    Lleoliadau Cyferbyniol: Llawlyfr Athrawon a DVD

    Cynlluniwyd Lleoliadau Cyferbyniol: Llawlyfr Athrawon a DVD ar gyfer addysgu a dysgu sgiliau daearyddol yng Nghyfnod Allweddol 2 (Cwricwlwm 2008). Mae'r ddarpariaeth yn gosod pwyslais ar feithrin y sgiliau daearyddol hynny sy'n berthnasol i astudio lleoliadau cyferbyniol yn y byd. Mae'r DVD yn cynnwys mapiau, lluniau, pamffledi a deunydd atodol ychwanegol gan gynnwys taflenni gweithgaredd o'r Pedwar lleoliad cyferbyniol sef Botswana, Patagonia, Gwlad yr Ia a Pharis. Mwy o wybodaeth
    £31.98

  10. Lleoliadau Cyferbyniol - Llawlyfr athrawon

    Lleoliadau Cyferbyniol - Llawlyfr athrawon

    Gellir defnyddio'r llawlyfr hwn ar ei ben ei hun neu fel rhan o'r Pecyn Adnoddau Lleoliadau Cyferbyniol. Mae'r llawlyfr hwn yn cynnwys nifer o syniadau i helpu athrawon gyflwyno'r pedwar lleoliad; Botswana, Patagonia,Gwlad yr Ia a Pharis. Nod y pecyn yw; Datblygu ymwybyddiaeth a synnwyr plant o le. Datblygu sgiliau daearyddol. Hybu sgiliau holi a meddwl. Hyrwyddo ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd-eang. Cefnogi Dysgu Annibynnol. Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Ascending Direction

Grid List

1-10 o 61