Addasiad dwyieithog o 'Goose on the Farm' gan Laura Wall.
Llyfr stori hyfryd i blant bach gyda delweddau lliwgar a chyfoes.Mae Soffi a Gŵydd yn mynd am drip i'r fferm... ac mewn byr amser fe ddaw yn ddiwrnod i'w gofio! Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.
Mwy o wybodaeth
Gŵydd - Addasiad dwyieithog o 'Goose' gan Laura Wall.
Llyfr stori dwyieithog i blant ifanc gyda lluniau lliwgar a thrawiadol. Pan mae Soffi yn cyfarfod Gŵydd ar drip i'r parc, mewn byr dro mae'r ddau yn ffrindiau mynwesol. Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs.
Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt!
Pecyn o 4 llyfr gwaith cartref i gynorthwyo disgyblion Cyfnod Allweddol 2 gydau gwaith llythrennedd.
Gair o eglurhad!
Mae rhai o’r staplau yn y gyfres hon yn dangos olion tarneisio ar y clawr allanol yn unig. Mae’r tudalennau mewnol a’r cynnwys heb eu heffeithio. Rydym felly wedi gostwng y pris o £15.96 i £12.99. Gan ei bod yn gyfres mor boblogaidd rydym wedi penderfynu cynnwys y gyfres fel cynnig arbennig.
Regular Price: £15.96
Pris Arbennig £12.99
Llyfr bwrdd llawn lluniau lliwgar. Mae cyfle i godi fflapiau ac i gyffwrdd a theimlo gwahanol rannau o'r llyfr wrth ddysgu am liwiau.
Mwy o wybodaeth
Addasiad dwyieithog o 'Hugless Douglas' gan David Melling.
Weithiau, dim ond cwtsh mawr sy'n gwneud y tro. Mae Douglas yr arth fach frown eisiau cwtsh ... ond sut mae dod o hyd i'r cwtsh gorau yn y byd?
Mwy o wybodaeth
Un o lyfrau Cyfres 100 Atebol ar gyfer plant ifanc. Adargraffiad.
Llyfr bwrdd lliwgar sy'n cyflwyno 100 o eiriau cyntaf yn y Gymraeg. Geiriadur hwyliog a syml! Mae'r geiriau'n eiriau bob dydd ar wahanol themu; Bwyd, Cartref, Dillad, Lliwiau, Teganau, Anifeiliaid Fferm ... Mae'r gair Cymraeg a Saesneg o dan bob llun, a bydd hyn o gymorth i rieni sy'n dymuno dysgu Cymraeg gyda'u plant yn ogystal a dysgwyr. Anrheg poblogaidd iawn.
Mwy o wybodaeth