COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

31-40 o 100

  1. Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Dewch i Fodelu Gyda: Clai

    Llyfr sy'n cynnig oriau o waith creadigol ac addysgol. Ceir yn y llyfr lu o syniadau ar gyfer gwneud modelau clai gyda chyfarwyddiadau cam-wrth-gam ar gyfer y plant. Llyfr sy'n cynnig cyfle i feddwl yn greadigol a chael ambell fflach o ysbrydoliaeth! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Alphaprints - 123

    Alphaprints - 123

    Cyfres o lyfrau bwrdd lliwgar gyda delweddau trawiadol sydd wedi'u creu gydag olion bysedd a graffeg cyfoes. Llyfrau stori gyda thestun byr a syml. Yn y llyfr hwn bydd cyfle i'r plant ddysgu cyfri a dod i adnabod y rhifolion. Llyfrau poblogaidd a hardd. Anrheg delfrydol I fabanod a phlant cyn oed ysgol. Dwyieithog. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Alphaprints - Ti'n Werth y Byd!

    Llyfr cyffwrdd a theimlo lliwgar a deniadol sy'n siwr o blesio'r rhai bach. Mae'r llyfr yn rhan o'r gyfres 'Alphaprints', sef cyfres o lyfrau cyffwrdd a theimlo gyda darluniau trawiadol wedi'u creu ag olion bysedd a gwaith graffeg unigryw. Addas i fabanod a phlant 0-4 oed. Mwy o wybodaeth
    £5.99

  4. Douglas a'r Parti Cysgu Cŵl

    Douglas a'r Parti Cysgu Cŵl

    Mae'r parti cysgu yn nhŷ Cwningen yn un wasgfa FAWR. A fydd Douglas, druan yn medru cysgu o gwbl? Mwy o wybodaeth
    £5.99

  5. Gŵydd ar y Fferm

    Gŵydd ar y Fferm

    Addasiad dwyieithog o 'Goose on the Farm' gan Laura Wall.

    Llyfr stori hyfryd i blant bach gyda delweddau lliwgar a chyfoes.Mae Soffi a Gŵydd yn mynd am drip i'r fferm... ac mewn byr amser fe ddaw yn ddiwrnod i'w gofio! Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  6. Llyfr Sticeri Rygbi

    Llyfr Sticeri Rygbi

    Llyfr gweithgareddau gwych i wybod mwy am rygbi!

    Mae'r llyfr yn cynnwys pob math o wybodaeth yn ogystal â chyfle i osod sticeri ar gefndiroedd lliwgar o fyd rygbi. Cyfle i greu tîm, i greu sesiwn ymarfer neu i chwarae rygbi hyd yn oed!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  7. Gŵydd

    Gŵydd

    Gŵydd - Addasiad dwyieithog o 'Goose' gan Laura Wall.

    Llyfr stori dwyieithog i blant ifanc gyda lluniau lliwgar a thrawiadol. Pan mae Soffi yn cyfarfod Gŵydd ar drip i'r parc, mewn byr dro mae'r ddau yn ffrindiau mynwesol. Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes sy'n sôn am gyfeillgarwch.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  8. Deg Deinosor Bach

    Deg Deinosor Bach

    Addasiad Cymraeg Eurig Salisbury o Ten Little Dinosaurs. Mae deg deinosor bach yn cychwyn ar antur, ond tybed sut hwyl maen nhw'n ei gael wrth gwrdd â'r triceratops grwgnachlyd, diplodocus trwstfawr a t-rex llwglyd? Stori swnllyd gyda thestun sy'n odli a llu o bethau i'r plant chwilio amdanynt! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Y Cerrig Hud

    Y Cerrig Hud

    Wrth i fachgen bach ollwng carreg y mae newydd ei lliwio i'r dŵr, mae rhywbeth rhyfeddol yn digwydd... 'Yn sydyn, roedd yna fflach o olau llachar a synau rhyfeddol. Neidiodd Peter yn ôl mewn rhyfeddod wrth weld pysgodyn lliwgar yn nofio yn y dŵr. Roedd carreg Peter wedi dod yn fyw!'

    Llyfr stori dwyieithog i blant bach.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  10. Geiriau Cyntaf

    Geiriau Cyntaf

    Llyfr dwyieithog sy'n helpu'r plentyn i ddatblygu geirfa. Yn cynnwys cardiau fflach i'w defnyddio fel gêm. Gyda lle storio ar gyfer y cardiau fflach. Mwy o wybodaeth
    £9.99

Set Descending Direction

Grid List

31-40 o 100