COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 99

  1. Yr Arth Aruthrol

    Yr Arth Aruthrol

    Stori llawn hiwmor am arth wen sy'n byw ym Mhegwn y Gogledd ac sy'n hoff o nofio, pysgota, bwyta a chysgu.

    Ond un diwrnod, mae hi'n syrthio i gysgu ac yn deffro ym mhell bell o adre. Dydy pethau erioed wedi bod cynddrwg.

    Ond maen nhw ar fin mynd yn waeth ... yn waeth o lawer!

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Douglas a'r Cywion Ciwt

    Douglas a'r Cywion Ciwt

    Addasiad Eurig Salisbury o Hugless Douglas and the Baby Birds gan David Melling.

    A fedri di gadw wy bach yn gynnes drwy roi cwtsh iddo? Daw Douglas o hyd i'r ateb wrth iddo ofalu am nyth Aderyn Dowcio.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

  3. Gŵydd a'i Gacennau

    Gŵydd a'i Gacennau

    Stori hyfryd am berthynas anarferol a chynnes am gyfeillgarwch.

    Addasiad Cymraeg Manon Steffan Ros o Goose's Cake Bake gan Laura Wall.

    Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Douglas yn Chwarae Cuddio

    Douglas yn Chwarae Cuddio

    Addasiad o Hugless Douglas Plays Hide and Seek gan David Melling.

    Mae Douglas a’i ffrindiau yn chwarae eu hoff gem – cuddio! Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn mynd ar goll wrth chwarae cuddio?

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Chwarae a Dysgu: Tywysoges - Gweithgareddau! Hwyl! Sticeri!

    Chwarae a Dysgu: Tywysoges - Gweithgareddau! Hwyl! Sticeri!

    Llyfr gweithgaredd Chwarae a Dysgu dwyieithog ar gyfer y Blynyddoedd Cynnar. Yn cynnwys posau a gêmau - yn ogystal â sticeri i'w gosod! Mwy o wybodaeth
    £3.99

  6. 100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    100 Geiriau, Lliwiau, Siapiau

    Diweddariad o lyfr bwrdd Geiriau, Lliwiau, Siapiau yng nghyfres 100. 

    Llyfr bwrdd cadarn sy'n cyflwyno geiriau, lliwiau a siapiau i blant ifanc.

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Branwen

    Branwen

    Mae’r llyfr hwn yn gynrychiolaeth graffig o ail gangen y Mabinogi, Branwen ferch Llŷr. Nod y llyfr yw cyflwyno plant a phobl ifanc i’r chwedl, ac i ail-ddweud y stori mewn ffordd weledol ac emosiynol i gynulleidfaoedd newydd gan ddefnyddio gwaith celf sy’n deillio o arteffactau hanesyddol go iawn.

    • Testun dwyieithog
    • Arlunwaith lliwgar, llachar a thrawiadol gyda chyfeiriadau cynnil at fywyd Celtaidd hynafol

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Codi Fflap: Pi-Po Dan y Dŵr

    Allwch chi ddod o hyd i Sgodyn Streipiog a'i ffrindiau'n cuddio tu ôl i'r fflapiau? Gwyliwch rhag ofn iddyn nhw neidio allan!

    Mae'r llyfr hwn yn ysgogi'r dychymyg a'r cof ac yn annog cyd-chwarae hapus rhwng plant a'u rhieni. Mae dysgu trwy chwarae yn hwyl, ac mae pob plentyn bach yn mwynhau chwarae pi-po!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Anrheg Nadolig Taid

    Anrheg Nadolig Taid

    Addasiad o Grandpa Christmas gan Michael Morpurgo (darluniau gan Jim Field).

    Bob Nadolig, mae Mia a’i theulu yn darllen llythyr oddi wrth Taid. Ynddo, mae Taid yn dymuno cael byd gwell i Mia. Mae’n cofio’r hwyl gawson nhw yn yr ardd gyda’r llyffantod a’r pryfed genwair ac yn plannu hadau. Ond mae Taid yn poeni am y pethau hyn. Mae’n poeni eu bod nhw mewn perygl, ac mae eisiau help Mia i ofalu amdanyn nhw.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  10. Jeronimo

    Jeronimo

    Addasiad o Geronimo, llyfr stori a llun gan David Walliams (darluniau gan Tony Ross).

    Mae Jeronimo yn bengwin bach sy’n ysu am gael hedfan. Gyda help llaw ei ffrindiau, mae’r pengwin bach yn darganfod fod unrhywbeth yn bosib!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 99