Diweddariad o lyfr bwrdd Geiriau, Lliwiau, Siapiau yng nghyfres 100.
Llyfr bwrdd cadarn sy'n cyflwyno geiriau, lliwiau a siapiau i blant ifanc.
Mwy o wybodaeth
Dyma gyfle i chi ddilyn hynt a helynt bywyd ar y fferm drwy gydol y flwyddyn. O dymor y gwanwyn, drwy'r haf a'r hydref i dymor y gaeaf mae'r ffermwr yn brysur wrth ei waith.
Llyfr gyda 50 fflap llawn o wybodaeth diddorol.
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg gan Eurig Salisbury o 'The Koala Who Could'.
Dewch i gwrdd â Cefin y coala, sy'n hoffi pethau FEL Y MAEN NHW, heb DDIM NEWID. Ond pan mae pethau'n newid yn ddirybudd un dydd, daw Cefin i ddysgu sut i fwynhau profiadau newydd ac anhygoel. Stori ddoniol ar gyfer unrhyw un sy'n teimlo pryder wrth wynebu newid.
Cliciwch yma i ddarllen mwy ar brif themâu a chynnwys y llyfr, pwyntiau trafod a syniadau ar gyfer tasgau trawsgwricwlaidd!
Gwyliwch y stori yn dod yn fyw yn ein fideo Amser Stori isod!
Llyfr poblogaidd arall yng nghyfres Alphaprints. Dyma lyfr bwrdd lliwgar a doniol am griw o ddeinosoriaid difyr!
Mae pob deinosor yn cynrychioli siap gwahanol, ac mae'n ffordd wych o ddysgu'r plant am y siapiau mwyaf cyffredin.
Mae'r darluniau'n drawiadol, ac wedi eu creu gydag olion bysedd. Llyfr deniadol fydd yn siwr o blesio'r plant ifanc dro ar ôl tro.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £6.99
Pris Arbennig £3.50
Regular Price: £6.99
Pris Arbennig £3.50