COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 50

  1. Economeg Safon Uwch - Cyfrol 1

    Economeg Safon Uwch - Cyfrol 1

    Cyfrol addas ar gyfer astudio cwrs Economeg Safon Uwch a Safon Uwch Gyfrannol. Mae'r gyfrol hylaw hon wedi'i rhannu'n unedau hwylus gyda phob uned yn rhoi sylw penodol i bwnc neu faes arbennig. Addasiad Cymraeg o Economics - Fourth Edition gan Alain Anderton

    Mwy o wybodaeth
    £12.50

  2. Economeg Safon Uwch - Cyfrol 2

    Economeg Safon Uwch - Cyfrol 2

    Gwerslyfr addas ar gyfer astudio cwrs Economeg Safon Uwch yn ogystal ag Astudiaethau Busnes Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a chyrsiau proffesiynol cysylltiol.

    Mae'r gyfrol hylaw hon wedi'i rhannu'n unedau hwylus gyda phob uned yn rhoi sylw penodol i bwnc neu faes arbennig.

    Mwy o wybodaeth
    £12.50

  3. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Tirweddau Rhewlifedig

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Tirweddau Rhewlifedig

    Llawlyfr sy'n atgyfnerthu dealltwriaeth y myfyrwyr o dirweddau rhelifedig. Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiad Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, CBAC.

    - Cyngor defnyddiol a phrofion i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad

    - Tasgau hunan astudio

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  4. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Tirweddau Arfordirol

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Tirweddau Arfordirol

    Llawlyfr sy'n atgyfnerthu dealltwriaeth y myfyrwyr o dirweddau arfordirol a pheryglon tectonig.

    Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiadau Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, CBAC.

    - Cyngor defnyddiol a phrofion i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad

    - Tasgau hunan astudio

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  5. Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Llywodraethiant Byd Eang

    Llawlyfr Myfyriwr Safon Uwch: Daearyddiaeth Llywodraethiant Byd Eang

    Llawlyfr sy'n atgyfnerthu dealltwriaeth y myfyrwyr o lywodraethiant byd-eang gan roi sylw arbennig i'r newidiadau sy'n digwydd a sut orau i ymateb i'r newidiadau hynny. Llawlyfr sy'n ymateb yn llawn i ofynion arholiad Daearyddiaeth TAG Uwch Gyfrannol a Safon Uwch, CBAC.

    - Cyngor defnyddiol a phrofion i baratoi myfyrwyr ar gyfer yr arholiad

    - Tasgau hunan astudio

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  6. Atlas Mawr y Byd

    Atlas Mawr y Byd

    Yn llawn lluniau anhygoel o bobl, lleoedd a bywyd gwyllt, dyma atlas Cymraeg sy’n cynnig golwg gyffrous ar y byd heddiw. Rhwng y baneri lliwgar, y ffeithiau difyr a’r testun darllenadwy, mae Atlas Mawr y Byd yn llyfr gwych ar gyfer y cartref a’r ysgol.

    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  7. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  8. Llyfr Gwaith Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Llyfr Gwaith Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Addasiad Cymraeg o lyfr gwaith darluniadol i gynorthwyo disgyblion sy'n dilyn cwrs Dylunio a Thechnoleg i lefel TGAU. Mwy o wybodaeth
    £4.50

  9. Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.

    Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  10. Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.

    Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.

    Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.

    Mwy o wybodaeth
    £10.99

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 50