COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 51

  1. Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Astudiaethau Busnes: Cyfrol 2

    Dyma lyfr cwrs cynhwysfawr a hyblyg ar gyfer myfyrwyr Astudiaethau Busnes sy'n dilyn cyrsiau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch a gwahanol gyrsiau proffesiynol.

    Mae Astudiaethau Busnes Cyfrol 2 wedi'i drefnu'n unedau, gyda phob uned yn canolbwyntio ar bwnc penodol. Mae'r unedau'n cynnwys triniaeth gynhwysfawr o'r pwnc dan sylw ynghyd â chynnwys diagramau lliw llawn i gynorthwyo'r egluro. Ar ddiwedd Cyfrol 2 mae unedau ar gasglu, cyflwyno a dadansoddi data, ac arweiniad ynghylch astudio effeithiol ac asesu.

    Mwy o wybodaeth
    £14.99

  2. Llyfr Gwaith Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Llyfr Gwaith Dylunio a Thechnoleg TGAU: Cynhyrchion Graffig

    Addasiad Cymraeg o lyfr gwaith darluniadol i gynorthwyo disgyblion sy'n dilyn cwrs Dylunio a Thechnoleg i lefel TGAU. Mwy o wybodaeth
    £4.50

  3. Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Canllawiau Adolygu Economeg Safon UG ac Uwch

    Llyfr adolygu sy'n ymdrin a chynnwys manylebau CBAC, AQA, Edexcel ac OCR ar gyfer Economeg Uwch Gyfrannol a Safon Uwch.

    Mae'r cynnwys wedi'i rannu'n adrannau hwylus, gyda rhan gyntaf y llyfr yn ymdrin micro-economeg a'r ail ran yn ymdrin a macro-economeg. Arddull cyflwyno syml, gan ddefnyddio diagramau i gynorthwyo adolygu lle bo'n briodol. Mae cwestiynau adolygu ar gyfer pob adran o'r llyfr.

    Llyfr gan Andrew Gillespie, addasiad Cymraeg gan Colin Isaac.

    Mwy o wybodaeth
    £10.99

  4. Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Help Llaw gydag astudio Blasu - Cymraeg Safon Uwch

    Arweiniad i fyfyrwyr Cymraeg Safon Uwch ar gyfer astudio a gwerthfawrogi Blasu gan Manon Steffan Ros.

    Mae'n ymdrin â chefndir a chyd-destun y nofel, cymeriadau, prif themâu, arddull a chrefft ynghyd â'i chymharu gyda nofelau eraill.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  5. Cyfraith ar gyfer A2

    Cyfraith ar gyfer A2

    Mae Cyfraith ar gyfer A2 yn addas ar gyfer astudio'r Gyfraith ar gyfer arholiadau'r Gyfraith A2 Safon Uwch. Mae'r gyfrol yn egluro popeth sydd angen i chi ei wybod ac mae'n llawn awgrymiadau gwerthfawr ar gyfer yr arholiad! Mae'r gyfrol yn delio'n gynhwysfawr gyda'r pynciau angenrheidiol yn glir a dealladwy. Mae'n cynnwys y newidiadau diweddaraf yn y gyfraith, gan gynnwys manylion llawn Deddf Cyfiawnder Troseddol a Chrwneriaid 2009. Mae elfen newydd sef Awgrymiadau ar gyfer yr arholiad yn sicrhau eich bod wedi paratoi'n well nag erioed at yr arholiad. Mae darluniau, cartwnau a gweithgareddau o help i egluro'r cysyniadau gan Jacqueline Martin a Chris Turner. Mwy o wybodaeth
    £21.99

  6. Seren Iaith 2 - Llawlyfr Adolygu Cywiro Iaith

    Seren Iaith 2 - Llawlyfr Adolygu Cywiro Iaith

    Casgliad o dros 200 o ymarferion i'ch cynorthwyo i ddefnyddio Cymraeg yn llwyddiannus.

    Llyfr hanfodol i brofi eich gallu i ysgrifennu Cymraeg yn gywir. Addas ar gyfer TGAU, UG, Lefel A, addysg bellach ac oedolion.

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Llinyn Trons - Llyfr Adolygu TGAU

    Llinyn Trons - Llyfr Adolygu TGAU

    Nodiadau adolygu gan Owain Sion Williams ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio'r llyfr Llinyn Trons gan Bethan Gwanas, fel llyfr gosod TGAU.

    Mewn un llyfr adolygu hwylus ceir crynodeb o'r stori, plot ac adeiladwaith cymeriadau, themau, technegau, arddull esbonio, dyfyniadau pwysig, ymarferion a thasgau pwrpasol, a chymorth ar sut i ateb cwestiynau arholiad.

    Addas ar gyfer Haen Sylfaenol a Haen Uwch.

    Mwy o wybodaeth
    £4.99

  8. TGAU Daearyddiaeth ar Gyfer Manyleb B CBAC - Llawlyfr Adolygu

    TGAU Daearyddiaeth ar Gyfer Manyleb B CBAC - Llawlyfr Adolygu

    Llawlyfr adolygu wedi'i baratoi gan y Prif Arholwr ar gyfer Daearyddiaeth TGAU Manyleb B. Bwriad y gyfrol ydy adolygu'r wybodaeth a hybu dealltwriaeth o'r pwnc yn ogystal â chynnig cyngor ac ymarfer ar gyfer yr arholiadau. Mwy o wybodaeth
    £7.99

  9. Noson ar y Teils

    Noson ar y Teils

    Drama graff, ddifyr a hynod ddoniol gan y dramodydd toreithiog Frank Vickery sy'n un o'r dramau gosod ar faes llafur CBAC;Drama ac Astudiaethau Theatr TAG U/UG. Drama gan Frank Vickery. Addasiad Cymraeg gan Garry Nicholas Mwy o wybodaeth
    £5.99

  10. Rhith y Rhosyn

    Rhith y Rhosyn

    Cyfieithiad gan Emyr Edwards o ddrama Tennessee Williams, The Rose Tattoo. Drama sy'n addas ar gyfer ysgolion, colegau a chwmnïau drama.

    Er bod Rhith y Rhosyn yn cael ei hystyried yn gomedi, eto i gyd mae ynddi elfennau o drasiedi bywyd. Mae'n cydnabod pwer dinistriol unigrwydd ar modd y bydd pobl yn dianc rhag ymosodiadau'r bywyd cymdeithasol sydd o'u cwmpas, a'r un pryd yn cynnig ymsuddo mewn rhywioldeb fel ateb iw problemau personol.

    Mwy o wybodaeth
    £5.99

Set Descending Direction

Grid List

21-30 o 51