COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Llyfrau

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 217

  1. Trio ac Antur y Castell

    Trio ac Antur y Castell

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!

    Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  2. Caffi Merelli

    Caffi Merelli

    Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin.

    Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy’n byw yng Nghymru ac wrth ei fodd gyda’r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a’r lasagne!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  3. Trio ac Antur y Mileniwm

    Trio ac Antur y Mileniwm

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!

    Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! 

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  4. Y Criw Canol Nos

    Y Criw Canol Nos

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.

    Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  5. Y Ferch Wyllt

    Y Ferch Wyllt

    Addasiad Mari George o Cowgirl gan G. R. Gemin.

    Mae bywyd Gemma’n llanast. Mae ei mam yn grac, mae ei thad yn y carchar, mae ei brawd yn cymysgu â chriw amheus … Ac ar ben y cwbl i gyd, mae gan ei mam-gu fuwch yn yr iard gefn.

    Mae Gemma’n gwybod bod cuddio gyr o wartheg o fferm y Ferch Wyllt ar stad o dai yn beth gwallgo i’w wneud. Wedi’r cyfan, mae’r Ferch Wyllt ychydig bach yn rhyfedd a dyw’r stad ddim yn lle delfrydol i gadw gwartheg. Ond mae’n hwyl ac mae’n gwneud i Gemma deimlo’n well – ac yn gwneud gwahaniaeth i’r stad a’i thrigolion. Y cwestiwn mawr yw, pa mor hir gall hyn barhau?

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Hufen Afiach

    Hufen Afiach

    Nofel i blant 7-11 oed gan Meilyr Sion. Antur llawn hiwmor am Sali Seimllyd, Seimon Smwts, Poli Peswch Pen Ôl a Wili Silibili sy’n ffurfio’r Pedwarawd Pwerus i gesio achub trigolion Cwm Cwstard rhag y cawr mawr cas, Beli Bola Mawr! Mwy o wybodaeth
    £6.99

  7. Darllen yn Well: Clywed yr Unigolyn sydd â Dementia

    Darllen yn Well: Clywed yr Unigolyn sydd â Dementia

    Addasiad Cymraeg gan Eiddwen Jones o Hearing the Person with Dementia gan Bernie McCarthy. Llyfr ar gyfer teuluoedd a gofalwyr sy'n egluro beth sy'n digwydd i gyfathrebu wrth i ddementia waethygu, sut mae hyn yn effeithio ar gof, iaith a synhwyrau person a sut bydd angen i ofalwyr addasu eu dull gofalu o'r herwydd. Mae byd dementia yn fyd dryslyd a brawychus ar adegau, i’r person sy’n byw yn y byd hwnnw ac i’r rhai o’u hamgylch. Wrth fynd i mewn i fyd person arall, gall eich gofal a’ch gallu i gyfathrebu â nhw wneud eu profiad yn fwy pleserus, yn heddychlon ac yn urddasol, a chynnal eu personoliad wrth i chi gyd-deithio â nhw drwy eu dementia. Llyfr ar gyfer teuluoedd a gofalwyr sy’n egluro beth sy’n digwydd i gyfathrebu wrth i ddementia waethygu, sut mae hyn yn effeithio ar gof, iaith a synhwyrau person a sut bydd angen i ofalwyr addasu eu dull gofalu o’r herwydd. Mwy o wybodaeth
    £12.99

  8. Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
    ond digwyddodd rhywbeth od un bore
    wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
    ar fy ngwir! Dyma’r stori ...

    Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.

    Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!

    Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.

    Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn...

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Siwrne yn y Gorffennol

    Siwrne yn y Gorffennol

    Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...

    Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.






     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  10. Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Lleu Llaw Gyffes gan Aled Jones Williams

    Ysbrydolwyd y ddrama gan awydd Aled i archwilio ein mythau ni fel cenedl:
    Y Mabinogi.

    Beth sy’n digwydd pan fo myth yn torri lawr a chwalu?

    A ddaw myth newydd i gymryd ei le?

    Oes rhywbeth ynddynt o hyd sy’n werthfawr a all gyfoethogi ein bywydau?

    Drama ddifyr, ddeifiol a chignoeth am golli ffydd ac am bosibilrwydd y tynerwch dynol all oroesi.

    Mwy o wybodaeth
    £5.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 217