Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o Ratburger gan David Walliams.
Mae llond trol o bethau’n poeni Begw, druan… Mae ei llysfam mor ddiog nes ei bod yn gofyn i Begw bigo’i thrwyn trosti. Ac mae bwli’r ysgol wrth ei bodd yn poeri ar ei phen. Ond yn waeth byth mae gan Bryn, y dyn byrgyrs afiach, gynlluniau ofnadwy ar gyfer ei llygoden fawr hi. Fedra i ddim datgelu beth yn union yw’r cynlluniau hynny, ond mae cliw go fawr yn nheitl y llyfr hwn…
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.
Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...
Mwy o wybodaeth
Addasiad gan Dewi Wyn Williams o Bad Dad gan David Walliams.
Antur gyffrous am berthynas glos rhwng Deio a'i dad wrth iddyn nhw geisio ennill brwydr yn erbyn y dihiryn drwg, Leni'r Lwmp!
Mwy o wybodaethOut of stock
Addasiad Mari George o Cowgirl gan G. R. Gemin.
Mae bywyd Gemma’n llanast. Mae ei mam yn grac, mae ei thad yn y carchar, mae ei brawd yn cymysgu â chriw amheus … Ac ar ben y cwbl i gyd, mae gan ei mam-gu fuwch yn yr iard gefn.
Mae Gemma’n gwybod bod cuddio gyr o wartheg o fferm y Ferch Wyllt ar stad o dai yn beth gwallgo i’w wneud. Wedi’r cyfan, mae’r Ferch Wyllt ychydig bach yn rhyfedd a dyw’r stad ddim yn lle delfrydol i gadw gwartheg. Ond mae’n hwyl ac mae’n gwneud i Gemma deimlo’n well – ac yn gwneud gwahaniaeth i’r stad a’i thrigolion. Y cwestiwn mawr yw, pa mor hir gall hyn barhau?
Mwy o wybodaeth
Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin.
Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy’n byw yng Nghymru ac wrth ei fodd gyda’r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a’r lasagne!
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!
Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!
Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Ai chi ydy’r arwr dewr i goncro’r castell? Byddwch yn ofalus! Mae sawl gelyn am eich rhwystro. Dro arall, bydd ffrind i’ch helpu i gipio’r castell!
Mae'r gêm yn cynnwys dis chwarae a darnau chwarae pwrpasol ar gyfer y gêm.
CYNNWYS DARNAU BACH - nid yw'n addas ar gyfer plant sy'n iau na 36 mis oed.