Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...
Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.
3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal
Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!
Cliciwch YMA i ddarllen adolygiad y gyfrol gan Sôn am Lyfra!
Daw hen chwedl yn fyw yn y stori antur fodern hon. Lleolir y nofel ger Aberaeron a dilynwn Daisy, merch 11 oed, a’i theulu ar ôl iddynt symud o’r gogledd i redeg ganolfan arddio yn yr ardal.
Un diwrnod, mae Daisy yn benthyg llyfr chwedlau eithaf cyffredin ei olwg o’r Ffair Lyfrau flynyddol yn yr ysgol. Nid oes ganddi fawr o obaith am y llyfr anniddorol, nes iddi gael ei thaflu oddi ar ei beic ar ei thaith adref o’r ysgol... dyna pryd mae pethau rhyfedd yn dechrau digwydd! Wrth ddychwelyd adref, yn dilyn ei gwrthdrawiad ar y beic, mae Daisy yn argyhoeddedig ei bod wedi cwrdd â Mari Perllan Pedr, gwrach o chwedl leol adnabyddus. Ond sut y gall hynny fod yn bosib?
Dilynwch antur ddirgel Daisy wrth iddi geisio darganfod y gwir a chesio achub busnes ei theulu yn Arthen Fach ar yr un pryd.
• Y cyntaf mewn cyfres newydd i blant
• 14 pennod byr, bachog
• Stori gyffrous, llawn dirgelwch a fydd yn siwr o fachu sylw’r darllenydd
• Themâu amgylcheddol cyfredol fel ffracio wedi’u plethu’n yn llwyddiannus i mewn i’r stori
Pecyn yn cynnwys Trio ac Antur y Mileniwm, Trio ac Antur y Castell a Trio ac Antur yr Eisteddfod.
Tair cyfrol newydd gan Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd.
Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd.
Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!
Mwy o wybodaeth
Mae Aled Tomos wrth ei fodd ag anturiaethau, felly mae’n llawn cyffro pan fydd ef a’i chwaer Rhian yn syrthio trwy wydr drych eu modryb ac yn glanio yn 1912. Mae gwibio ar hyd y lle mewn car gwefreiddiol o beryglus, darganfod creiriau hynafol a hyd yn oed ddal troseddwr neu ddau yn dipyn o hwyl! Ond mae angen iddyn nhw ddod o hyd i ffordd o fynd adre...
Dyma’r nofel gyntaf mewn cyfres antur fywiog sy’n mynd yn ôl mewn amser, gan yr awdures arobryn, SALLY NICHOLLS.
Mwy o wybodaeth
Regular Price: £6.99
Pris Arbennig £3.50
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!
Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth
Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!
Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!
Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!
Mwy o wybodaeth