COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Teitlau Newydd

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem

  1. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!


    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  2. Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2

    Cardiau Sbardun Trawsgwricwlaidd CA2

    Pecyn newydd o unedau gwaith trawsgwricwlaidd cyfrwng Cymraeg ar gyfer dysgwyr Cyfnod Allweddol 2 sydd wedi eu cynllunio i gyd-fynd ag egwyddorion adroddiad Yr Athro Donaldson.

    Pecyn arloesol sy’n rhoi cyfle i ddatblygu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol o fewn Meysydd Dysgu a Phrofiad Cwricwlwm i Gymru.

    12 uned waith ar 12 thema wahanol: Gwlad a Thref; Hwyl a Sbri; Yn Yr Ardd; Cymru Ein Gwlad; Fi Fy Hun; Y Tymhorau; Cyfathrebu; Ynys Llanddwyn; Yr Enfys; Goleuni; Cylchoedd; Y Goedwig.

    Pob uned hefyd yn cynnwys cysylltiadau Y Pedwar Diben; Asesu ar gyfer Dysgu; Sgiliau Ehangach; Deilliannau Dysgu; Ysgrifennu Estynedig.

    Mae’r pecyn hefyd yn cynnwys co-bach sydd â 92 o adnoddau ychwanegol i gyfoethogi’r gweithgareddau trawsgwricwlaidd.

    Gellir gweld enghraifft o un uned waith, Gwlad a Thref, isod.

    Cysylltwch am fwy o wybodaeth am y pecyn neu i drefnu ymweliad ysgol sy’n cyfuno cynllunio trawsgwricwlaidd gyda chyflwyno’r pecyn:
    ffion@atebol.com / 01970 832172

    ** Rydym yn cynnal cyrsiau hyfforddi trawsgwricwlaidd i gyd-fynd â’r Cardiau Sbardun. Bydd ein cyrsiau nesaf yn Llanrwst, Sir y Fflint, Ceredigion a Bangor yn ystod mis Ionawr 2020. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni. **

    Mwy o wybodaeth
    £199.99

  3. Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn Cyfres Trio

    Pecyn yn cynnwys Trio ac Antur y Mileniwm a Trio ac Antur y Castell, dwy gyfrol newydd gan Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron.

    Mwy o wybodaeth
    £12.00

  4. Y Gwningen a’r Arth: Arferion Od Cwningod

    Y Gwningen a’r Arth: Arferion Od Cwningod

    Addasiad o Rabbit & Bear: Rabbit’s Bad Habits gan Julian Gough a Jim Field. Dyma’r llyfr cyntaf mewn cyfres o 4 llyfr.

    Mae Arth yn deffro’n gynnar un diwrnod ac yn penderfynu adeiladu dyn eira. Mae Cwningen, sy’n gymeriad swnllyd, holl-wybodus, yn dod ar draws Arth ac yn dweud wrthi sut i wneud hynny orau. Yna, daw Blaidd llwglyd i mewn i’r goedwig, ac mae e’n ffansio pastai cwningen –a’r Arth sy’n profi mai hi sy’n gwybod orau pan ddaw i gyfeillgarwch.

    Dyma’r math o stori sy’n gwneud i chi eisiau anfon eich plant i’r gwely’n gynnar fel y gallwch ei darllen iddyn nhw!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Y Ferch Wyllt

    Y Ferch Wyllt

    Addasiad Mari George o Cowgirl gan G. R. Gemin.

    Mae bywyd Gemma’n llanast. Mae ei mam yn grac, mae ei thad yn y carchar, mae ei brawd yn cymysgu â chriw amheus … Ac ar ben y cwbl i gyd, mae gan ei mam-gu fuwch yn yr iard gefn.

    Mae Gemma’n gwybod bod cuddio gyr o wartheg o fferm y Ferch Wyllt ar stad o dai yn beth gwallgo i’w wneud. Wedi’r cyfan, mae’r Ferch Wyllt ychydig bach yn rhyfedd a dyw’r stad ddim yn lle delfrydol i gadw gwartheg. Ond mae’n hwyl ac mae’n gwneud i Gemma deimlo’n well – ac yn gwneud gwahaniaeth i’r stad a’i thrigolion. Y cwestiwn mawr yw, pa mor hir gall hyn barhau?

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  6. Caffi Merelli

    Caffi Merelli

    Addasiad Cymraeg Mared Llwyd o Sweet Pizza gan G. R. Gemin.

    Dyma stori Jo, bachgen o dras Eidalaidd sy’n byw yng Nghymru ac wrth ei fodd gyda’r iaith Eidaleg, y gerddoriaeth a’r lasagne!

    Mwy o wybodaeth
    £7.99

  7. Trio ac Antur y Castell

    Trio ac Antur y Castell

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae rhywun yn bwriadu dymchwel Castell Caernarfon a’i droi yn fwyty enfawr! Gwaith TRIO yw darbwyllo’r perchennog newydd i adael llonydd i’r castell, ond mae hynny’n fwy anodd na mae o’n swnio!

    Yr ail nofel yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. Trio ac Antur y Mileniwm

    Trio ac Antur y Mileniwm

    Stori am TRIO, grŵp o ffrindiau sy'n caru antur ac sy'n benderfynol o achub y byd - wel, Cymru o leia'!

    Mae TRIO yn cael mynd ar drip i Gaerdydd i weld sioe. Ond O, mam bach! Mae rhywun wedi newid yr ysgrifen ar Ganolfan y Mileniwm! Mae hon yn antur berffaith i TRIO, y triawd mwyaf dwl yng Nghymru!

    Y nofel gyntaf yng nghyfres newydd Manon Steffan Ros gyda lluniau gan Huw Aaron! 

     

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  9. Y Criw Canol Nos

    Y Criw Canol Nos

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o The Midnight Gang gan David Walliams.

    Canol nos yw’r adeg pan mae’r rhan fwyaf o blant yn cysgu’n sownd. Pawb, wrth gwrs, heblaw’r Criw Canol Nos! Megis dechrau mae eu hanturiaethau nhw bryd hynny...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

    Out of stock

  10. Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Rhyw Ddrwg yn y Caws

    Addasiad Cymraeg gan Mared Llwyd o Ratburger gan David Walliams.

    Mae llond trol o bethau’n poeni Begw, druan… Mae ei llysfam mor ddiog nes ei bod yn gofyn i Begw bigo’i thrwyn trosti. Ac mae bwli’r ysgol wrth ei bodd yn poeri ar ei phen. Ond yn waeth byth mae gan Bryn, y dyn byrgyrs afiach, gynlluniau ofnadwy ar gyfer ei llygoden fawr hi. Fedra i ddim datgelu beth yn union yw’r cynlluniau hynny, ond mae cliw go fawr yn nheitl y llyfr hwn…

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

Set Descending Direction

Grid List

10 Eitem