COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Teitlau Newydd

Set Descending Direction

Grid List

2 Eitem

  1. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Jig-so Ceredigion

    Jig-so Ceredigion

    Jig-so newydd ar ffurf map o Geredigion er mwyn dathlu bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn y sir yn 2020. Bydd yn cynnwys nifer o drefi a phentrefi amlycaf y sir, yn ogystal â safleoedd eraill o ddiddordeb, e.e. Ystad Fflur, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Yn debyg I rhai o’n jig-sos eraill, siroedd Cymru a Chestyll Cymru. Mwy o wybodaeth
    £8.39

Set Descending Direction

Grid List

2 Eitem