COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

  • MENU

  • SEARCH

  • ACCOUNT

    COVID-19 - Rydym yn prosesu ac yn danfon archebion fel arfer yn ystod y cyfnod hwn. Mwy o wybodaeth

Teitlau Newydd

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 39

  1. Coronafeirws: Llyfr i blant

    Coronafeirws: Llyfr i blant

    Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n egluro’r coronafeirws mewn ffordd ddealladwy a syml i blant oedran cynradd? Dyma addasiad Cymraeg Atebol o lyfr gwybodaeth AM DDIM cwmni cyhoeddi Nosy Crow, sydd wedi ei ddarlunio gan ddarlunydd llyfrau Gruffalo, Axel Scheffler.

    Dyma lyfr digidol ar gyfer plant oedran cynradd, ar gael am ddim i’w ddarllen ar y sgrin neu i’w argraffu, yn egluro beth yw’r coronafeirws a’r mesurau i’w reoli. Ysgrifennwyd y llyfr Saesneg gwreiddiol gyda mewnbwn arbenigol gan yr ymgynghorydd Yr Athro Graham Medley o Ysgol Hylendid a Meddygaeth Drofannol Llundain, dau brifathro a seicolegydd plant.

    Mae’r llyfr yn ateb y cwestiynau allweddol canlynol mewn iaith syml sy’n addas ar gyfer plant rhwng 5 a 9 oed:

    • Beth yw’r coronafeirws?
    • Sut mae rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Beth sy’n digwydd pan fydd rhywun yn dal y coronafeirws?
    • Pam mae pobl yn poeni am ddal y coronafeirws?
    • A oes ffordd o wella pobl o’r coronafeirws?
    • Pam mae rhai o’r llefydd rydyn ni fel arfer yn ymweld â nhw ar gau?
    • Sut beth yw hi i fod gartref drwy’r amser?
    • Beth alli di ei wneud i helpu?
    • Beth sy’n mynd i ddigwydd nesaf?

    Gellir gweld y llyfr drwy edrych ar yr e-lyfr uchod neu drwy ei lawrlwytho gan glicio ar y botwm I’r ddogfen.

    Am fwy o wybodaeth am y cyhoeddiad Saesneg, gweler yma.

    Mwy o wybodaeth
    £0.00

  2. Ymdrin ag Iselder Ôl-enedigol â Meddwl Tosturiol

    Ymdrin ag Iselder Ôl-enedigol â Meddwl Tosturiol

    Addasiad Cymraeg o The Compassionate Mind Approach to Postnatal Depression gan Michelle Cree. Gall cael babi fod yn gyfnod o lawenydd ond hefyd yn destun pryder a hyd yn oed iselder i famau newydd. Mae’n gyffredin iawn i famau newydd brofi cyfnod byr o bryder yn dilyn genedigaeth ac i fwy nag 1 o bob 10 menyw, gall y profiad ofidus hwn fod yn fwy hirfaith. Bydd y llyfr hunangymorth ymarferol hwn sy’n seiliedig ar Therapi sy’n Canolbwyntio ar Dosturi yn eich helpu i adnabod rhai o’r symptomau a, lle bo hynny’n briodol, eu normaleiddio, a thrwy hynny leddfu eu gofid. Bydd hefyd yn tywys mamau i fod, a mamau newydd trwy’r ddrysfa o deimladau dryslyd a all godi.

    Mwy o wybodaeth
    £15.99

  3. Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Ymwybyddiaeth Ofalgar: Canllaw Pen-tennyn

    Addasiad Cymraeg o A Mindfulness Guide for the Frazzled gan Ruby Wax. Bum can mlynedd yn ôl, doedd neb yn marw o straen: ni wnaeth ddyfeisio’r cysyniad hwn, ac rydyn ni bellach yn gadael iddo’n rheoli ni. Mae Ruby Wax yn dangos i ni sut i lacio’n gafael er ein lles ein hunain, drwy wneud newidiadau syml sy’n rhoi cyfle i ni anadlu, myfyrio a byw yn y funud. Gadewch i Ruby eich tywys at y chi iachach a hapusach. Yr unig beth sydd gennych i’w golli yw’ch straen...

    Mwy o wybodaeth
    £8.99

  4. Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Trio ac Antur yr Eisteddfod

    Dyma’r trydydd llyfr yn y gyfres o dri sy’n dilyn anturiaethau ‘Trio’ – grŵp o ffrindiau sy’n caru antur ac yn anobeithiol o benderfynol o achub y dydd. Mae Trio, sef Clem Clyfar, Dilys Ddyfeisgar a Derec Dynamo eisoes wedi cael anturiaethau yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd a Chastell Caernarfon, ond y tro hwn maen nhw’n mentro i faes yr Eisteddfod! O fewn munudau i gyrraedd y maes, mae’r tri ffrind yn clywed si am antur... mae Cadair yr Eisteddfod wedi diflannu! Dilynwn y criw wrth iddyn nhw grwydro’r maes yn chwilio am y lleidr dieflig – a chamgyhuddo ambell eisteddfodwr ar y ffordd. Cyfres ysgafn a phoblogaidd, gyda digon o hiwmor i ddenu darllenwyr ifanc, newydd!

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  5. Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Ffwlbart Ffred: Drewi fel Ffwlbart

    Mae Ffred a’i ffwlbart yn ffrindiau gorau
    ond digwyddodd rhywbeth od un bore
    wnaeth newid lliw trwyn Anti Gyrti –
    ar fy ngwir! Dyma’r stori ...

    Dewch i gwrdd â Ffred a’i ffwlbart yn y llyfr cyntaf mewn cyfres newydd o lyfrau stori-a-llun am ffrindiau bach direidus.

    Stori llawn hwyl gyda thestun sy’n odli yn seiliedig ar un o’n dywediadau Cymraeg mwyaf od!

    Stori gan Sioned Wyn Roberts. Arlunwaith Bethan Mai.

    Mae cyfle isod i chi gwrdd â Sioned Wyn Roberts a Bethan Mai, awdur ac arlunydd y llyfr! Fe gawn glywed beth oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i’r llyfr a chawn flas ar y stori unigryw sy’n mynd â ni ar antur i ddatrys problem ddrewllyd iawn...

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  6. Byw Bywyd i’r Eithaf

    Byw Bywyd i’r Eithaf

    Addasiad Cymraeg o Living Life to the Full gan Dr Chris Williams.

    Ydych chi am deimlo’n hapusach, dod o hyd i amser i chi a goresgyn problemau? Mae Byw Bywyd i’r Eitha’ yn dysgu strategaethau lles pwerus i chi yn seiliedig ar y dull Therapi Ymddygiad Gwybyddol y gellir ymddiried ynddo. Ei nod yw eich helpu chi i ddarganfod pam rydych chi’n teimlo fel rydych chi’n ei wneud, ac yna gwneud newidiadau mewn ffyrdd cam wrth gam wedi’u cynllunio.

    Wedi’i ysgrifennu gan yr awdur arobryn yr Athro Chris Williams, Athro Emeritws Seiciatreg Seicogymdeithasol ym Mhrifysgol Glasgow a Llywydd y sefydliad arweiniol ar gyfer Therapi Ymddygiad Gwybyddol yn y DU (BABCP), mae’r llyfr hwn wedi helpu cannoedd o filoedd o bobl ledled y DU , yn ogystal ag mewn rhaglenni mawr yn yr Undeb Ewropeaidd, Gogledd America ac Asia.

    Mwy o wybodaeth
    £15.00

  7. Siwan a Cherddi Eraill

    Siwan a Cherddi Eraill

    Argraffiad newydd Atebol yn 2020 o gyfrol enwog Saunders Lewis, Siwan a Cherddi Eraill, a cyhoeddwyd yn flaenorol gan Wasg Dinefwr. Mae’r gyfrol yn cynnwys y ddrama fydryddol Siwan (1954), sy’n portreadu perthynas Siwan â Llywelyn Fawr, a’i charwriaeth gyda Gwilym Brewys. Ceir hefyd rhai o gerddi prin y bardd a’r dramodydd. Mae’r ddrama Siwan ar faes llafur TAG UG Cymraeg (Iaith Gyntaf) CBAC (Uned 1 Y Ffilm a’r Ddrama a Llafaredd).

    Mwy o wybodaeth
    £6.99

  8. CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    CBAC Canllaw Myfyrwyr: Busnes – Cyfleoedd Busnes

    Addasiad Cymraeg o Student Guide WJEC/EDUQAS Business – Business opportunities ar gyfer myfyrwyr UG/Uwch Blwyddyn 1. Mae’r gyfrol wreiddiol yn Saesneg wedi ei hysgrifennu gan yr athrawon profiadol Mark Hage a Tracey Bell, ac wedi ei gyhoeddi gan wasg Hodder Education. Mae’r gyfrol yn cynnwys crynodebau clir ar y testunau gosod, gyda chwestiynau ac atebion enghreifftiol i wella techneg y myfyriwr yn yr arholiad.

    Mwy o wybodaeth
    £9.99

  9. Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Ar Gof: Y lloer a’r sêr

    Yn y blwch mae tri llyfryn a phob un yn ddyfais i annog ein gallu i gofio. Maen nhw’n agor drwy gyflwyno pennill cyfan. Yna, gyda phob tudalen, mae rhai o eiriau’r llinellau’n diflannu. Bydd y bylchau a’r lluniau’n anogaeth i gofio’r geiriau coll ...

    Y cof. Un o’n doniau mwyaf pwerus fel pobl yw’r gallu i gofio. Fel unigolion, defnyddiwn ein cof i gyflawni ein bywyd beunyddiol. Ond mae’r cof hefyd yn creu cymdeithas. Y cof-ar-y-cyd sy’n caniatáu i ni berthyn i’n gilydd, ac mae cydgofio geiriau cerddi yn rhan bwysig o’r perthyn hwnnw. Mae Ar Gof yn gasgliad sydd â’r nod o’n cynorthwyo i gofio cofio.

    3 cyfrol wedi’u pecynnu mewn bocs. Fformat: Clawr meddal

    Dyma Mererid yn siarad am y cyhoeddiad ar Heno S4C!


    Mwy o wybodaeth
    £12.99

  10. BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llyfr Adolygu

    BTEC Cenedlaethol Chwaraeon: Llyfr Adolygu

    Addasiad Cymraeg o BTEC National Sports Units 1 and 2 Revision Workbook sy’n rhoi cyfle i’r myfyrwyr ymarfer eu dealltwriaeth o’r meysydd o dan sylw.

    Mwy o wybodaeth
    £10.00

Set Descending Direction

Grid List

1-10 o 39