Disgrifiad byr
Dyma gyfrol yn llawn gwybodaeth ddifyr am gymeriadau Cymru ar hyd y canrifoedd. Mae'n sôn am gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol, yn ddynion a menywod sydd wedi gwneud eu marc yn hanes Cymru. Roedd ambell un yn athrylith ac ambell un yn adnabyddus am fod yn gymeriad od! Addas i blant 9-13 oed.