Yr Awduron
Yr Athro Pwyll ap Sion
Mae’r Athro Pwyll ap Siôn yn gerddoregydd, cyfansoddwr ac yn Athro mewn Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n darllen cerddoriaeth yng Ngholeg Magdalen, Rhydychen, cyn ymuno â staff Ysgol Gerdd Prifysgol Bangor yn 1993. Astudiodd gyfansoddi ym Mhrifysgol Bangor gyda John Pickard a Martin Butle, gan dderbyn ei PhD ym 1998. Mae wedi cyhoeddi ym maes cerddoriaeth boblogaidd o Gymru a cherddoriaeth Geltaidd.
Dr Sarah Whitfield
Mae Sarah yn Uwch Ddarlithydd mewn Theatr Gerdd ac Arweinydd Cwrs MA Theatr Gerdd ym Mhrifysgol Wolverhampton. Mae’n ymchwilydd theatr gerdd ac ymarferydd, ac fel dramaturg mae wedi cydweithredu a chynghori ar ystod o brosiectau theatr a sioeau cerdd y West End. Mae’n academydd sydd wedi cyhoeddi’n eang ym maes atudiaethau theatr gerdd ac mae ganddi brofiad sylweddol mewn dylunio a chyflwyno cwricwlwm ar gyfer cyrsiau drama a’r celfyddydau perfformio.
Dr James Lovelock
Mae James yn Arweinydd Cwrs Theatr Gerdd ym Mhrifysgol Wolverhampton sydd â chefndir mewn byrfyfyrio a chreu theatr gerdd. Er oedd cyfarwyddwr cerdd gwreiddiol Showstopper! a pherfformiwyd The Improvised Musical a’i sioe gerdd Sunshine Guy am y tro cyntaf yn 2013. James yw cyfarwyddwr Baron Sternlook Productions. Mae ganddo dros 15 mlynedd o brofiad addysgu ac wedi cyflwyno papurau yn ei faes mewn cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol.