Stori hwyliog wedi ei gwau gyda nifer o weithgareddau rhyngweithiol.
Bydd plant wrth eu boddau yn helpu Sali Mali i brynu anrhegion, paratoi'r bagiau parti, gosod y bwrdd, coginio cacen a chreu carden pen-blwydd i Jac y Jwc. Mae'r gweithgareddau graddedig wedi'u cynllunio i ddatblygu sgiliau rhifedd a dealltwriaeth o rif mewn plant ifanc. Mae'r CD hefyd yn datblygu llythrennedd plant.