Details
Cafodd y gyfrol Seren Iaith dderbyniad gwresog gan ddysgwyr ac athrawon ledled Cymru a mawr fu’r galw am olynydd. Dyma felly fynd ati i gyhoeddi ap Seren Iaith 2 gan ddilyn fformat llwyddiannus y gyfrol gyntaf.
Mae’r tasgau amrywiol yn cynnwys esboniad ar bwynt gramadegol gydag ymarfer yn dilyn er mwyn atgyfnerthu’r dysgu ar ffurf llenwi bylchau, adnabod gwahanol fathau o dreigladau, newid person neu amser y ferf ac ati.
Nod yr ap hwn yw gwella sgiliau ieithyddol oedolion a phobl ifanc Cymru. Mae atebion posibl i bob tasg ar gael wrth ddefnyddio’r ‘seren atebion’ yn y meddalwedd.