• Llyfr wedi ei ddatblygu ar y cyd rhwng Elidir Jones a Huw Aaron
• 40+ o luniau du a gwyn gan Huw Aaron
• Perffaith i’r rheiny sy’n mwynhau darllen The Edge Chronicles (Paul Stewart / Chris Riddell) neu’r gyfres Redwall (Brian Jacques), neu sy’n hoff o drysor, bwystfilod ac antur.
ELIDIR JONES
Awdur a sgriptiwr o Fangor yw Elidir Jones. Cafodd ei nofel gyntaf, Y Porthwll, ei chyhoeddi yn 2015. Ymhlith ei waith teledu y mae Ddoe am Ddeg, Arfordir Cymru, a Cynefin. Ers 2004, mae’n chwarae’r gitâr fas i’r band Plant Duw, ac mae’n un o sylfaenwyr y wefan fideowyth.com. Erbyn hyn mae’n byw yng Nghaerdydd gyda’i wraig a’i gi mewn tŷ llawn llyfrau.
HUW AARON
Mae Huw Aaron yn gartwnydd ac yn ddarlunydd o Gaerdydd. Gellir gweld ei waith mewn nifer fawr o lyfrau i blant. Mae hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd at gylchgrawn Mellten, Private Eye, The Oldie a The Spectator.